Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
6 Mai 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6318
------
Dechreuodd yr eitem am 13.34
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Nododd y Llywydd mai hwn oedd cyfarfod cyntaf Senedd Cymru a bod y newid enw yn adlewyrchu'r ystod o bwerau a chyfrifoldebau y mae'r Senedd yn eu gweithredu ar ran pobl Cymru.
Dywedodd y Llywydd, er bod enw'r sefydliad wedi newid yn swyddogol, mai’r flaenoriaeth o hyd, fel dros yr wythnosau diwethaf, yw ymateb i argyfwng coronafeirws a bod dinasyddion Cymru, yn fwy nag erioed o'r blaen, yn disgwyl Senedd genedlaethol gref i weithio er budd pobl Cymru.
Dechreuodd yr eitem am 13.35
Dechreuodd yr eitem am 13.35
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r capasiti i ddarparu strategaeth brofi, olrhain ac ynysu o ran coronafeirws ar gyfer Cymru, yn dilyn adroddiadau mai cyngor diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yw y gallai fod angen 30,000 o brofion y dydd?
Dechreuodd yr eitem am 13.49
Dechreuodd yr eitem am 14:53
Am 15.57 gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud.
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Dechreuodd yr eitem am 16.57
Daeth y cyfarfod i ben am 18.04
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 13 Mai 2020